|
|
Pysgota Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf mae ecoleg Bae Caerdydd wedi caniatáu datblygiad pysgodfa fras iach gydag amrywiaeth dda o gynefinoedd a rhywogaethau pysgod a ddylai fod o ddiddordeb i bysgotwyr newydd a rhai sy'n hen law arni. Ymysg y rhywogaethau sy’n bresennol mae rhufellod, cochgangod, brwyniaid, draenog dwr croyw, merfogiaid, carpiaid, rhuddbysgod a phenhwyaid. Ym misoedd yr haf mae’r hyrddyn yn ymwelydd cyson sy’n rhoi cyfleoedd pysgota ychwanegol. Agorwyd y Bae i bysgota bras mewn rhai mannau ym mis Chwefror 2010, ond mae'r potensial yna i ehangu i weithgareddau eraill yn y dyfodol wrth i ddiddordeb gynyddu a bod fwyfwy o bobl yn dod i bysgota yn y Bae. Mae ansawdd gwych y dŵr yn y Bae a’r gadwyn fwyd dda ar gyfer y pysgod wedi golygu cyfraddau tyfu gwych ar gyfer ystod o rywogaethau yn barod, ac mae’r potensial o ddal pysgod sampl yn y dyfodol yn dda iawn. Mae Awdurdod yr Harbwr yn parhau i ddatblygu a gwella cyfleusterau pysgota, yn ogystal â gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion ar ddiwrnodau cyflwyno pysgota i bobl sydd â diddordeb. Mae gennym hefyd gysylltiadau agos gyda sefydliadau sy’n berthnasol i bysgota fel Asiantaeth yr Amgylchedd, Ffederasiwn Pysgotwyr Cymru (corff llywodraethu) a chlybiau pysgota lleol. |
||||||||||||
