> Hafan > Gweithgareddau Antur

Gweithgareddau Antur

Mae Canolfan Gweithgareddau Dwr Bae Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau y gellir rhoi cynnig arnynt fel un sesiwn neu drwy gyfres o sesiynau i ddechreuwyr, a fydd yn dysgu sgiliau sylfaenol i chi o’r gweithgaredd.

P’un ai ydych chi neu’ch grwp yn chwilio am un sesiwn blasu gweithgaredd, cwrs i ddechreuwyr neu ddiwrnod aml-weithgaredd gallwn ni deilwra pecyn a fydd yn addas i chi!

Mae gennym amrywiaeth o hyfforddwyr profiadol a chymwys ac offer o’r radd flaenaf i’ch galluogi i ddod draw i roi cynnig ar unrhyw un o’r gweithgareddau canlynol:

  • Saethyddiaeth
  • Rhwyfo mewn Cwch Dwbl
  • Dringo
  • Pysgota
  • Rafftio Byrfyfyr
  • Rhwyfo
  • Hwylio
  • Adeiladu Tîm
  • Beicio Llwybrau

Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau i ddechreuwyr mewn saethyddiaeth, pysgota a hwylio i'r rheiny ohonoch sy'n chwilio am weithgaredd mwy penodol.

Beth bynnag yw'ch busnes, ni allwch ddibrisio gwerth gweithgareddau antur ac adeiladu tîm. Mae Bae Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer gweithgareddau awyr agored, gan fanteisio ar ddwr cronnus y bae.