|
|
Pecynnau Parti Mae Canolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd (CBWAC) yn lleoliad gwych i gynnal parti, gan gynnig ardaloedd ar y tir a’r dŵr i bobl o bob gallu. Ydych chi am dderbyn yr her? Trowch eich llaw at rywbeth newydd gyda’ch ffrindiau neu’ch cydweithwyr gyda’n pecynnau parti cyffrous. Gallwn ddarparu ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau fel partïon pen-blwydd, diwrnodau corfforaethol a chlybiau. Profwch weithgareddau llawn antur gan gynnwys hwylfyrddio, tonfyrddio, rhwyfo, hwylio a beicio llwybrau yn ogystal â llu o weithgareddau a gemau awyr agored. Gallwn deilwra dros 16 o wahanol weithgareddau ar y tir a’r dŵr ar gyfer pob oed, profiad a lefelau adrenalin! Gellir darparu cinio oer. Gofynnwch am fwydlenni wrth archebu.
|
|
