|
|||||||||||||||||||||||
|
|
Ysgolion Yma yng Nghanolfan Gweithgareddau Dwr Bae Caerdydd a Chanolfan Hwylio Caerdydd, rydym yn awyddus i weithio’n agos gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i gynnig profiad i’w disgyblion o weithgareddau dwr ac antur am bris fforddiadwy. Gallwn weithio gyda phlant mor ifanc ag 8 oed mewn sbectrwm eang o weithgareddau ar y dwr ac ar y tir. Rydym yn cynnig pecynnau gweithgareddau’r haf yn ogystal â rhaglen gyffrous yn y gaeaf. Ein lleoliad yw aber afon Taf a chan ein bod dim ond tafliad carreg o Fae Caerdydd rydym mewn lleoliad delfrydol i ysgolion o Gaerdydd, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Rydym yn cynnig cyrsiau gweithgareddau penodol fel ein cyrsiau dysgu i rwyfo 'llafnau' sydd wedi'u hardystio gan Gymdeithas Rhwyfo Cymru a chyrsiau hwylio a hwylfyrddio yr RYA drwy raglen ar y dwr yr RYA. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cynnig pecynnau aml-weithgaredd drwy gydol y flwyddyn. Os hoffai’ch ysgol neu’ch grwp gael un sesiwn aml-weithgaredd neu nifer o sesiynau i gael profiad mwy trylwyr o weithgareddau, gallwn deilwra pecyn i gyd-fynd â’ch anghenion. Mae gennym ddwy fenter newydd ar gyfer Gwanwyn 2011! Y rhain yw'r her ysgolion cynradd ac Academi Rhwyfo Ysgolion Caerdydd a’r Fro, dwy fenter sydd eisoes yn boblogaidd iawn. I gael rhagor o wybodaeth am y rhain cliciwch ar y tabiau ar yr ochr chwith. |
||||||||||||||||||||||
