|
|
Diogelwch y Bae/Ansawdd Dŵr Gall ansawdd y dŵr ym Mae Caerdydd amrywio o fod yn wych i fod yn wael. Yn holl ddŵr croyw agored y DU mae yna berygl o gael eich heintio gan amryw heintiau ac afiechydon, yn arbennig i’r rheiny sy’n dioddef o ymateb imiwnyddol is. Ymhlith y mathau o heintiau sy’n gyffredin mae afiechydon gastro-goluddol nad sy’n ddifrifol, heintiau’r llygad, y glust a’r llwnc, teiffoid, dysentri a hepatitis A heintus. Mae’r risg yn cael ei gynyddu’n fawr drwy lyncu dŵr. Am y rheswm hwn mae nofio, er enghraifft, yn cael ei wahardd ar hyn o bryd yn y Bae. Fodd bynnag mae chwaraeon trochi eraill fel sgïo dŵr a syrffio gwynt yn cael eu caniatáu dim ond pan fyddant yn cael eu hawdurdodi gan Awdurdod yr Harbwr.Gellir cael rhestr o weithgareddau dŵr gwaharddedig oddi wrth Awdurdod yr Harbwr. Er bod imiwneiddio yn gallu lleihau’r risg o gael eich heintio gan rai afiechydon, mae rhai eraill yn bodoli nad oes modd cael brechiad diogelu ar eu cyfer e.e. Afiechyd Weil (leptosbirosis). Mae afiechyd Weil yn brin a’r perygl o'i gael yn isel iawn ond gall fod yn salwch difrifol iawn, hyd yn oed yn farwol. Beth ddylwn i ei wneud? Os ydych yn teimlo'n sâl ar ôl bod mewn cysylltiad â dŵr, yna ewch i weld eich meddyg yn syth. Beth gellir ei wneud i leihau’r peryglon? Mae’r risg o gael eich heintio gan salwch difrifol yn isel ond gyda rhagofalon synhwyrol, gellir lleihau’r risg o gael eich heintio hyd yn oed yn fwy. Dylech orchuddio briwiau gyda dresin sy’n dal dŵr; diogelu eich traed gyda sanau neu esgidiau sy'n atal briwiau; osgoi llyncu dŵr ac osgoi trochi diangen, yn enwedig y pen. Os ydych wedi bod mewn cysylltiad â dŵr y Bae, golchwch neu ewch am gawod ar ôl hynny gan ddefnyddio sebon a dŵr ffres yn enwedig cyn bwyta ac yfed. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ar yr holl afiechydon posibl sy'n cael eu cludo yn y dŵr ewch i’r wefan ganlynol www.nhs.uk |
|
