> Hafan > Sut i gyrraedd yno

Sut i gyrraedd yno

Canolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd

I gyrraedd Bae Caerdydd a CBWAC o’r draffordd, gadewch yr M4 yng Nghyffordd 33 a dilynwch yr A4232 i’r Bae gan adael ar y gyffordd â'r arwydd Parc Manwerthu Bae Caerdydd.

Dilynwch y saethau ar y map, ar hyd Ferry Road ac i’r dde ar Jim Driscoll Way ac yna i’r dde unwaith eto i’r Ganolfan Gweithgareddau Dŵr.






Cliciwch ar y llun uchod
map am gyfarwyddiadau manwl
i Gaerdydd CBWAC a
Canolfan Hwylio.

Cyfarwyddiadau i Ganolfan Hwylio Caerdydd

Mae ein Canolfan Hwylio yn Adeilad yr Amgylchedd ar ben gogleddol Morglawdd Bae Caerdydd.

I gyrraedd Bae Caerdydd o’r draffordd, gadewch yr M4 yng Nghyffordd 33 a dilynwch yr A4232 i’r Bae gan adael ar y gyffordd â'r arwydd Parc Manwerthu Bae Caerdydd.

Dilynwch yr arwyddion am Benarth, gan groesi Afon Elái a throi i’r chwith wrth y goleuadau traffig. Wrth y gylchfan gyntaf ewch i’r chwith, ewch yn syth ar yr ail gylchfan a dilynwch y ffordd heibio i Farina Penarth (gofalwch am y mesurau arafu traffig) hyd nes i chi gyrraedd y gylchfan. Bydd bwyty’r Custom House ar eich dde.

Trwoch i’r chwith cyntaf oddi ar y gylchfan ac yna trowch i’r chwith; cyn i chi fynd mewn i Faes Parcio'r Morglawdd ac aros wrth y gât. Bydd aelod o staff wrth y gât i’ch gadel drwyddi tua 10-15 munud cyn i’r cwrs ddechrau.

Wedi i chi gael croesi, gyrrwch dros y llociau ac ar hyd ffordd y morglawdd hyd nes i chi gyrraedd Adeilad yr Amgylchedd lle mae digonedd o le i barcio.

  • Cyfyngiad cyflymdra o 5mya dros y llociau a’r llifddorau
  • Cyfyngiad cyflymdra o 20mya dros y morglawdd
  • Rhaid i chi gynnau eich goleuadau rhybudd

Ein cod post ar gyfer defnyddio teclyn llywio â lloeren yw CF64 1TT

Os ydych yn hwyr ac nad oes aelod o staff ar y gât i roi mynediad i chi, gallwch gysylltu â ni ar 07870 990927