> Hafan > Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau

•  Welsh Varsity Boat Race 28th April, 2012

Caerdydd yn cynnal Digwyddiad rhwyfo dan do

Penodwyd Canolfan Gweithgareddau Dwr Bae Caerdydd (CBWAC) gan Ras Gychod Colegau Cymru i gynnal ei digwyddiad blynyddol, sydd wedi'i gynnal ers saith mlynedd.

Bob blwyddyn, bydd prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn mynd benben â’i gilydd i ennill teitl Pencampwyr Ras Gychod Colegau Cymru.

Cynhelir ras eleni ddydd Sadwrn 28 Ebrill ar Afon Taf, Caerdydd. Cynhelir pedair ras, gan gynnwys rasys i Ddynion a Merched, rhwng 11:15am a 2:15pm. Bydd pob ras yn dechrau is y pontydd rheilffordd, gyferbyn â Bragdy Brains, ac yn gorffen yn arhosfa Tacsi Dwr CBWAC.

Bydd seithfed Ras Gychod Colegau Cymru yn gystadleuaeth gyffrous, ac mae gan Gaerdydd ac Abertawe griwiau o’r radd flaenaf ym mhob categori.

Dywedodd rheolwr Canolfan Dwr Gwyn Ryngwladol Caerdydd, Chris Hadfield: “Mae gan CBWAC enw da am gynnal digwyddiadau poblogaidd. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant o’r safon uchaf sy’n helpu pobl o bob oedran a gallu i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i fwynhau rhwyfo.

Mae Ras Gychod Cymru yn datblygu bob blwyddyn a bydd cyfleusterau fel CBWAC yn sicrhau y bydd rhwyfo’n parhau i fod yn un o chwaraeon mwyaf llwyddiannus Prydain.”

Amseroedd Rasio

11.15am Ras i Ddechreuwyr y Merched

12.15pm Ras i Ddechreuwyr y Dynion

1.15pm Y Brif Ras i Ferched

2.15pm Y Brif Ras i Ddynion

23/04/12


Pencampwriaethau Rhwyfo Dan Do Ysgolion Cymru a Phencampwriaethau Rhwyfo Dan Do Agored Cymru

Ar ddydd Gwener 2 Rhagfyr bydd Caerdydd yn cynnal 5ed Pencampwriaeth Rhwyfo Dan Do Ysgolion Cymru, gyda Phencampwriaethau Rhwyfo Dan Do Agored Cymru yn dilyn ar ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr.  Dyma un o’r digwyddiadau rhwyfo dan do mwyaf ar y calendr a llynedd gwelwyd tua 600 o bobl ifanc yn cystadlu ar y dydd Gwener a 400 o bobl rhwng 11 a 80 oed yn cystadlu ar y dydd Sadwrn.  Mae’r digwyddiadau yn cynnwys rasys unigol i bobl ifanc a rasys pellter i rai hŷn, gan gynnwys ras sbrint 500 metr ar y dydd Sadwrn a'r digwyddiadau tîm llawn hwyl ar y ddau ddiwrnod.

15/11/11


• Hwylio, Hwylfyrddio a Gyrru Cychod Modur!

Gwobrau a Dyddiadau Cyrsiau 2012 nawr ar gael ar gyfer Hwylio, Hwylfyrddio a Gyrru Cychod Modur!

22/10/11


Blas ar y Gemau Olympaidd i Academi Rwyfo Ysgolion Caerdydd a’r Fro

Ddydd Sul 8 Mai teithiodd academi newydd ei sefydlu sef Academi Rwyfo Caerdydd a’r Fro i leoliad rhwyfo Olympaidd 2012 yn Llyn Dorney er mwyn cael eu profiad cyntaf o rasio ar y dŵr yn Regata’r Ball Cup. Mae’r digwyddiad wedi ei anelu at glybiau llai ac iau nad sy'n disgwyl ennill medal yn Regata Cenedlaethol Ysgolion ac mae'n rhoi blas gwych i glybiau iau o gwrs aml lôn 750 metr.

Rasiodd tîm iau o 10 mewn amrywiol ffyrdd: pedwar â llywiwr, sgwlio dwbl a sgwlio sengl gan berfformio’n wych ym mhob maes a hynny o dan amodau heriol. Cafwyd perfformiadau nodedig oddi wrth Matt Jackson, Blwyddyn 7, a ddaeth i’r rownd derfynol ar gyfer sgwlio Blwyddyn 8 (gan ddod yn 5ed), a Charlotte Certelli a Sophie Bell, sgwliau dwbl merched Blwyddyn 8, a fethodd ond y dim â dod i’r rownd derfynol â’u perfformiad dygn mewn cystadleuaeth galed.

Mae pawb sy’n cymryd rhan yn y Blades wedi dysgu sut i rwyfo ar hyd cyrsiau'r haf diwethaf ac wedi hyfforddi'n galed gydol misoedd y gaeaf er mwyn bod yn barod am eu ras gyntaf. Rydym bob amser yn ceisio chwyddo’r niferoedd sydd gennym drwy ein cyrsiau dysgu rhwyfo ar bnawniau Sul ac yn ystod gwyliau ysgol. Edrychwch ar ein tudalennau rhwyfo am ragor o wybodaeth am y cyrsiau a sut i archebu.

17/05/10


• Regata Cyntaf Canolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd

Bydd Canolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd yn cynnal ei regata rhwyfo cyntaf ddydd Mawrth 21 Mehefin ar y cyd â Chwaraeon Caerdydd. Mae’r rasio wedi’i anelu at ddechreuwyr i’r gamp sydd wedi bod yn rhan o gyrsiau dysgu rhwyfo Blades dros y misoedd diweddar. Rydym yn apelio at ysgolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gael timoedd o 5 at ei gilydd i gwblhau cwrs Blades ym mis Mai a mis Mehefin ac felly cystadlu yn y regata. Bydd rasys dechreuwr sengl, dwbl a phedwar â llywiwr ar gael ar gwrs tua 350 metr o hyd.

Cysylltwch â gstorey@caerdydd.gov.uk am ragor o fanylion.

16/05/10


• Her Ysgolion Cynradd

Mae’r Her Ysgolion Cynradd bellach yn mynd rhagddi yng Nghanolfan Gweithgareddau Dwr Bae Caerdydd gydag ysgolion Pen-y-Bryn a Meadow Lane ag amseroedd cyflym ar gyfer pob disgyblaeth. Rydym yn awyddus i weld llawer mwy o ysgolion yn cystadlu yn yr her gweithgareddau anturus hon ac mae ond yn costio £5 y pen! Os hoffai’ch ysgol chi drefnu lle cysylltwch â’n swyddfa docynnau ar 029 2035 3912.

Bwrdd y Pencampwyr

  • Meadowlane “Blues” – 19:15
  • Meadowlane “Reds” – 21:02
  • Pen-Y-Bryn “Royal Reds” – 31:44
  • Pen-y-Bryn “Blue Rovers” – 33:04
16/02/10

• Adroddiad Pencampwyr Rhwyfo Dan Do Cymru 2010

Tra roedd pawb arall yn rhynnu y tu allan yn y tywydd oer, roedd yr awyrgylch yn danbaid yn neuadd Canolfan Hamdden Channel View yn ystod pedwaredd Pencampwriaeth Rhwyfo Dan Do Ysgolion Cymru a phymthegfed Pencampwriaeth Rhwyfo Dan Do Cymru.

Fe wnaeth cyfanswm o dros 700 o gystadleuwyr unigol a 120 timau o bedwar frwydro yn ystod dau ddiwrnod o gystadlu brwd er mwyn cael eu coroni yn Bencampwyr Cymru.

Ddydd Gwener daeth cystadleuwyr o lawer o ysgolion lleol Caerdydd a’r Fro ac mor bell â Hendy-gwyn ar Daf, Lydney, Birmingham a Hendy-gwyn ar Daf i frwydro am fri mewn digwyddiadau unigol a thîm. Arweiniodd hyn at ymryson rhwng ysgolion ar gyfer tlws Victor Ludorum rhwng Colmer (Birmingham), Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd a Dyffryn Taf (Hendy-gwyn ar Daf), gydag Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yn fuddugol gyda pherfformiad cryf yn y rownd derfynol.

Ar gyfer yr Adroddiad Digwyddiad llawn a Chanlyniadau Cliciwch Yma

10/12/10

Eto i ddod!! - Sioe Gweithgarwch Awyr Agored 19 a 20 Mehefin

Gyda lleoliad newydd ym Mhentref Rhyngwladol Chwaraeon profwch amrywiaeth o weithgareddau cyffrous a gwyliwch arddangosfeydd o ddringo i rafftio dŵr gwyn, yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd.

Mynediad am ddim i’r safle rhwng 11am a 5pm.
Codir tâl unigol am weithgareddau.

Mae sesiynau hwylio ar adegau tawel ar gael. I archebu, ffoniwch 029 2035 3912

Sesiynau Rafftio Dŵr Gwyn ar gael. I archebu, ffoniwch 029 2082 9970

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth:

18/05/10