> Hafan > Trwyddedau Llithrfeydd

Trwydded Llithrfa - Mynegi Diddordeb

Lawrlwythwch y ffurflen hon i fynegi diddordeb mewn Trwydded Llithrfa Flynyddol ac allwedd i'r Llithrfa yn Channel View ar Afon Taf.

Nodiadau i Ymgeiswyr

1. Ar ôl ei chwblhau dychwelwch y ffurflen hon i:

Swyddfa'r Harbwrfeistr,
Awdurdod Harbwr Caerdydd,
Tŷ'r Frenhines Alexandra,
Cargo Road,
Caerdydd.
CF10 4LY.

Neu e-bostiwch ffurflen electronig i: AVye-Parminter@caerdydd.gov.uk

2. Bydd y manylion a roddwch yn cael eu cadw ar ffeil at ddibenion rhoi gwybodaeth am Lithrfa Channel View a materion mordwyo yn unig.

3. Pan fyddwn wedi derbyn eich ffurflen, wedi ei chwblhau, byddwn yn rhoi gwybod i chi am union gost eich llong, a rhoi telerau'r drwydded i chi yn gysylltiedig â defnyddio'r Llithrfa.

Dim ond ar ôl i chi ddarllen a derbyn y telerau hyn y byddwn yn gofyn i chi dalu am y drwydded a byddwch yn derbyn allwedd.