> Hafan > Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau

1. Archebu
1.1 Mae’r holl drefniadau archebu yn unol â’r amodau a thelerau hyn; a bydd y ffurflen archebu wedi'i llenwi a'i llofnodi ynghyd â'r amodau a thelerau hyn yn ffurfio'r cytundeb cyfan rhyngoch chi ('y Cwsmer' neu'r 'Cyfranogydd') neu'r person sy’n archebu ar eich rhan, a’r Cyngor.

1.2 Rhaid derbyn ffurflenni archebu a thâl llawn cyn dechrau’r cwrs.

1.3 Gellir archebu lle dros dro dros y ffôn, cyn belled ag y derbyniwn ffurflen gais gyflawn ynghyd â thaliad o fewn 7 diwrnod o archebu dros y ffôn.

1.4 Bydd cadarnhad ein bod yn derbyn eich archeb yn cael ei bostio o fewn 7 diwrnod o dderbyn eich ffurflen gais a’ch taliad. Ni fydd lle wedi’i archebu i chi nes y byddwn wedi cadarnhau hynny.

2. Taliad
2.1 Mae’r ffioedd yn daladwy yn llawn wrth archebu lle am bob cwrs oni bai am archebion am grwpiau o 10 neu fwy.

2.2 Ar gyfer grwpiau o 10 neu fwy o bobl, mae angen blaendal, na ellir ei ad-dalu, o 25% o'r cyfanswm ffi wrth archebu; ac mae angen talu balans y ffi o leiaf 3 wythnos cyn i'r cwrs ddechrau.

2.3 Gellir talu dros y ffôn, drwy’r post neu’n bersonol gan ddefnyddio Maestro, MasterCard, Visa, Siec, neu Arian Parod (Rhaid gwneud taliadau ag arian parod yn bersonol yng Nghanolfan Channel View).

2.4 Ar gyfer archebion a wneir gan sefydliadau, efallai bydd archeb swyddogol neu ddogfen ysgrifenedig arall y gallwn ei anfonebu, yn unol â chyfeirnodau credyd boddhaol, yn dderbyniol yn lle taliad llawn o flaen llaw. Atodwch orchymyn prynu â'r ffurflen archebu.

3. Canslo/trosglwyddiadau gan y Cyngor
3.1 Gwneir pob ymdrech i sicrhau y cynhelir y cyrsiau yn ôl yr amserlen. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i:

3.1.1 Ganslo cwrs ar unrhyw bryd pe na bai’r nifer yn cyrraedd y lleiafswm ymarferol.

3.1.2 Canslo neu gwtogi unrhyw gwrs ar unrhyw bryd oherwydd amodau anaddas, tywydd garw, neu unrhyw ffactorau eraill tu hwnt i'n rheolaeth; a neu

3.1.3 Ganslo cwrs am unrhyw reswm arall gan roi rhybudd o ddim llai na 14 diwrnod i'r Cwsmer, a'r rhybudd i ddod i ben ar neu cyn dyddiad cychwyn y cwrs.

3.1.4 Cyn belled ag y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig cwrs arall addas a all gynnwys gweithgareddau neu ddyddiadau eraill, ond os na fyddwn yn gallu gwneud hynny neu os nad yw’r cwrs arall a gynigir yn dderbyniol i’r Cwsmer gwneir ad-daliad llawn ar gyfer cyrsiau a ganslwyd a gyfrifir pro rata lle bo’n berthnasol.

3.2 Ni fydd gan y Cyngor atebolrwydd o ganlyniad i ganslo oni bai am yr hyn a nodir yng nghymal 3.1 uchod.

4. Canslo/trosglwyddiadau gan y Cwsmer
4.1 Rhaid gwneud pob cais ar gyfer canslo/trosglwyddo yn ysgrifenedig, i'n swyddfa docynnau (derbynnir ffacs neu e-bost).

4.2 Ar ôl derbyn hysbysiad am gais i ganslo neu drosglwyddo:

4.2.1 Byddwn yn gwneud pob ymdrechion posibl i ddarparu ar gyfer eich cais;

4.2.2 Os gellir cynnig dyddiad neu weithgaredd o’r un gwerth sy’n dderbyniol gan y ddwy ochr yna gwneir trosglwyddiad heb unrhyw gost ychwanegol;

4.2.3 Yn unol â chymal 4.5 isod, os na ellir dod o hyd i ddewis arall sy’n dderbyniol gan y ddwy ochr, yna rhoddir ad-daliad llawn cyhyd â'n bod ni'n derbyn y cais i drosglwyddo / canslo o leiaf 3 wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs.

4.3 Ni ellir rhoi ad-daliad i unrhyw un sy'n canslo llai na 3 wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs.

4.4 Byddwn yn eich ad-dalu ar ôl dyddiad cychwyn y cwrs yn unig.

4.5 Pe baech yn canslo ar gyfer grwpiau o 10 neu fwy byddwch yn colli'r blaendal 25%, ac os byddwch yn canslo llai na 3 wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs, ni fyddwn yn gallu ad-dalu'r ffi archebu llawn.

5. Tystysgrifau
5.1 Nid yw cymryd rhan mewn cwrs yn golygu y rhoddir tystysgrif.

5.2 Bydd tystysgrifau yn cael eu rhoi os yw hyfforddwr y Ganolfan yn ystyried fod y Cwsmer yn arddangos y gofynion priodol i basio.

5.3 Rydym yn cadw’r hawl i wrthod rhoi tystysgrif cyhyd â’n bod ni’n rhoi rhesymau dros y penderfyniad ynghyd â chynllun gweithredu yn nodi ein hyfforddiant/gwelliannau sy'n angenrheidiol cyn y gall y Cwsmer basio, a chyn y gallwn gyflwyno tystysgrif.

6. Yswiriant a cholli eiddo
6.1 Cyfrifoldeb y Cwsmer yw trefnu unrhyw yswiriant angenrheidiol, a all gynnwys ond heb gyfyngiad yswiriant yn gysylltiedig â chanslo, chwtogi, damweiniau personol, atebolrwydd personol, lladrata ac yswiriant dros weithgareddau risg arbenigol; a byddwn yn argymell yn gryf i chi sicrhau'r un peth.

6.2 Bydd y Cyngor yn cytuno atebolrwydd am golled, niwed neu anaf o ganlyniad uniongyrchol i esgeulustod y Cyngor ei weision neu ei asiantau.

6.3 Rhaid i chi’n hysbysu o unrhyw golled eiddo o fewn 2 wythnos, gan y gwaredir ar eitemau sy’n cael eu darganfod ar ôl y cyfnod hwn.

7. Defnyddio eich cwch/bad eich hun
7.1 Rhaid i gwsmeriaid sy’n defnyddio eu bad eu hunain sicrhau fod ganddynt yswiriant priodol. Dylid darparu copi o’r polisi yswiriant ynghyd â thystiolaeth o bremiwm wrth archebu.

7.2 Nid yw’r Cyngor yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion, hawliadau, difrodau neu dreuliau mewn cysylltiad â defnyddio cyfleusterau’r Ganolfan, oni bai eu bod o ganlyniad uniongyrchol i esgeulustod y Cyngor, ei swyddogion neu asiantau.

8. Ffitrwydd Corfforol/Gallu Nofio
8.1 Mae nifer o’r cyrsiau a gynigir yn gorfforol iawn a gallant gynnwys plygu, codi, neidio, cwympo, ymestyn a rhywfaint o gydsymud; ac wrth archebu rydych yn datgan fod gennych chi, neu'r person yr ydych yn archebu ar ei ran, lefel digonol o ffitrwydd ar gyfer y gweithgareddau cysylltiedig. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’ch meddyg i geisio cyngor ynglŷn â chymryd rhan ai peidio.

8.2 Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan mewn cwrs ar y dŵr allu nofio 50 metr mewn dillad ysgafn.

9. Diogelwch
9.1 Diogelwch yw’r peth pwysicaf ar holl gyrsiau’r Ganolfan a rhaid i’r holl Gyfranogwyr a’u rhieni a gwarcheidwaid gydnabod bod chwaraeon dŵr a gweithgareddau antur yn beryglus o ran natur ac yn derbyn y risgiau sydd ynghlwm â chyfranogi ynddynt.

9.2 Wrth ddarparu system waith ddiogel ac i reoli’r risgiau cysylltiedig:

9.2.1 Byddwn yn cyflogi staff cymwys o fewn canllawiau’r corff llywodraethu yn unig;

9.2.2 Rydym yn darparu ystod o offer amddiffyn a diogelwch personol o ansawdd er lles diogelwch a chysur Cyfranogwyr;

9.2.3 Rydym yn darparu offer priodol ar gyfer eich cwrs;

9.2.4 Rydym yn addysgu i argymhellion a chanllawiau’r corff llywodraethu lleol;

9.2.5 Mae gennym systemau rheoli a diogelwch cadarn sydd wedi’u harchwilio gan gyrff cymeradwy megis y Gwasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALS), y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA), Undeb Canwa Prydain (BCU) a Chymdeithas Canwa Cymru (WCA); ac

9.2.6 Rydym yn cadw’r hawl i addasu neu ganslo gweithgaredd os ydym yn teimlo bod risgiau nad ellir eu rheoli.

9.3 Rhaid i’r holl Gyfranogwyr gydymffurfio’n llawn ac yn brydlon bob amser â’r holl reoliadau a chyfarwyddiadau diogelwch a gyflwynir gan y Ganolfan; ei staff a/neu ei hyfforddwyr; ac ni chaniateir i Gyfranogwyr wneud unrhyw beth (neu beidio gwneud unrhyw beth) a all achosi difrod neu golled i eiddo neu gyfleusterau'r Ganolfan neu Gyfranogwyr eraill neu achosi niwsans, diflastod, aflonyddwch, anhwylustod neu anaf i unrhyw berson arall ar yr eiddo. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i derfynu arhosiad/defnydd unrhyw berson(au) o gyfleusterau’r Ganolfan os ydyw'n credu eu bod yn torri amod 9.3, ac efallai bydd gofyn iddynt adael y Ganolfan ar unwaith. Ni roddir unrhyw ad-daliadau yn yr achos hwn, ac ni fydd y Cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw dreuliau, hawliadau neu gostau o ganlyniad i derfyniad felly.

9.4 Rhaid diosg neu osod tâp dros fodrwyon, cadwyni, clustdlysau neu emwaith arall cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd neu gwrs yn y Ganolfan.

10. Datganiadau meddygol neu ddietegol
10.1 Os oes gennych gyflwr neu salwch meddygol, gan gynnwys ond heb gyfyngiad i feichiogrwydd a chyflwr y galon, rhaid i chi ddatgelu hyn ar eich ffurflen archebu; a cheisio cyngor gan eich meddyg cyn archebu.

10.2 Rhaid i chi nodi ar eich ffurflen archebu os oes gennych anabledd, anghenion arbennig neu anghenion dietegol y byddai’n rhesymol ein bod yn gwybod amdanynt.

11. Cyfranogwyr dan 18
11.1 Bydd angen i bob person dan 18 oed gyflwyno ffurflen caniatâd rhieni/gwarcheidwaid cyn cael cymryd rhan mewn cwrs. Mae’r ffurflen ganiatâd ofynnol ar gael yn ein llyfryn, ac o’n swyddfa docynnau; a rhaid dychwelyd ffurflen ganiatâd wedi’i llenwi a’i harwyddo i’r Ganolfan o leiaf 3 wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs.

11.2 Ni fyddwn yn gyfrifol am rhai o dan 18 hyd nes amser cychwyn y cwrs; a rhaid eu casglu’n brydlon ar amser gorffen y cwrs.

12. Camgymeriadau ac Esgeulustod
12.1 Tra gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb gwybodaeth cyhoeddusrwydd y Cyngor, nid yw'r Cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau, anghywirdeb neu esgeulustod ynddynt, ac mae'n cadw'r hawl i addasu prisiau, amseroedd neu ddyddiadau cyrsiau ar unrhyw adeg. Edrychwch ar yr holl gyfleusterau a phrisiau cyn archebu.

12.2 Cewch eich hysbysu am unrhyw newidiadau perthnasol pan fydd eich archeb yn cael ei brosesu a chewch y cyfle i ganslo eich archeb heb gosb os dymunwch.

13. Diogelu Data/Preifatrwydd
13.1 Bydd y wybodaeth a gyflenwyd gennych yn cael ei thrin yn unol â darpariaeth Deddf Diogelu Data 1998.

13.2 Efallai y byddwn weithiau yn tynnu lluniau o bobl sy’n cymryd rhan ar gyfer deunyddiau cyhoeddusrwydd, yn cynnwys ar ein safle gwe, ac wrth gyflwyno eich archeb rydych yn cytuno i hyn, heblaw eich bod yn rhoi tic yn y blwch priodol ar y ffurflen archebu i ddynodi nad ydych yn cytuno.