> Hafan > Hwylio > Hwylio i Oedolion

Hwylio i Oedolion

RYA Lefel 1: Cychwyn Hwylio

Gyda’r dewis o gwrs deuddydd neu ddosbarthiadau gyda’r nos am chwe wythnos, dyma’r cam cyntaf ar gyfer dechreuwyr neu i’r rheiny sydd â gwybodaeth sylfaenol. Byddwch yn dysgu lansio ac adfer, sut i hwylio ym mhob cyfeiriad a thechnegau a symudiadau hwylio syml. Ar ddiwedd y cwrs bydd gennych ddealltwriaeth o dechnegau trin cychod a gwybodaeth gefndirol.

Profiad Cyn y Cwrs:   Dim

Hyd: 2 Ddiwrnod (Penwythnos) Hyd: 6 Nos Fercher
Cost: £159 Cost: £223
Amser: 09:30 - 16:30 Amser: 18:00 - 21:00
Dyddiadau: 6 / 7 Ebrill 13 / 14 Gorffennaf Dyddiadau: 10 Ebrill - 15 Mai
20 / 21 Ebrill 27 / 28 Gorffennaf 5 Mehefin - 10 Gorffennaf
4 / 5 Mai 10 / 11 Awst 24 Gorffennaf - 28 Awst
18 / 19 Mai 7 / 8 Medi
1 / 2 Mehefin 21 / 22 Medi
15 / 16 Mehefin 5 / 6 Hydref
29 / 30 Mehefin


RYA Lefel 2: Sgiliau Sylfaenol

Bydd y cwrs deuddydd neu chwe wythnos o ddosbarthiadau nos yn adeiladu ar yr hyn a ddysgoch ar eich cwrs lefel 1 ac yn gwella eich sgiliau hwylio. Byddwn yn canolbwyntio ar ddiogelwch, technegau a symudiadau hwylio ac adfer ar ôl troi’r cwch. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gymwys i hwylio cwch gwynt ysgafn heb hyfforddwr.

Profiad Cyn y Cwrs:   Tystysgrif RYA Lefel 1 neu Asesiad Uniongyrchol

Hyd: 2 Ddiwrnod (Penwythnos) Hyd: 6 Nos Fercher
Cost: £155 Cost: £219
Amser: 09:30 - 16:30 Amser: 18:00 - 21:00
Dyddiadau: 13 / 14 Ebrill 6 / 7 Gorffennaf Dyddiadau: 10 Ebrill - 15 Mai
27 / 28 Ebrill 20 / 21 Gorffennaf 5 Mehefin - 10 Gorffennaf
11 / 12 Mai 3 / 4 Awst 24 Gorffennaf - 28 Awst
25 / 26 Mai 17 / 18 Awst
8 / 9 Mehefin 14 / 15 Medi
22 / 23 Mehefin 28 / 29 Medi


RYA Lefel 3: Hwylio Gwell

Mae’r cwrs dau ddiwrnod hwn wedi’i ddylunio i atgyfnerthu’r sgiliau a ddysgoch yn ystod eich cyrsiau lefel 1 a 2 ac ar gyfer rhoi cynnig ar sgiliau newydd. Yn ystod y cwrs, byddwch y cyffwrdd pynciau yn y modiwlau uwch megis Sgiliau Morwriaeth, Dechrau Rasio a Hwylio gyda Hwyliau Trisgwar (Sbinacr).

Ar ddiwedd y cwrs dylech fod yn fwy hyderus o’ch sgiliau wrth weithredu’r technegau a byddwch yn teimlo’n fwy parod i symud ymlaen gyda’r modiwlau uwch.

Profiad Cyn y Cwrs:   Tystysgrif RYA Lefel 2 neu Asesiad Uniongyrchol

Hyd: 2 Ddiwrnod (Penwythnos)
Cost: £155
Amser: 09:30 - 16:30
Dyddiadau: 1 / 2 Mehefin 7 / 8 Medi
27 / 28 Gorffennaf


RYA: Sgiliau Morwriaeth

Cwrs datblygu sgiliau lle byddwch yn dysgu am lansio ac adfer y cwch mewn gwahanol amgylchiadau, stopio, lleihau hwyl, adfer rhywun dros fwrdd llong ac angori. Ar ôl cwblhau byddwch yn gallu symud cwch ac yn gallu gwneud penderfyniadau cymwys mewn amodau cymedrol.

Profiad Cyn y Cwrs:   Tystysgrif RYA Lefel 2 neu Asesiad Uniongyrchol

Hyd: 2 Ddiwrnod (Penwythnos)
Cost: £155
Amser: 09:30 - 16:30
Dyddiadau: 10 / 11 Awst

Cysylltwch â’n swyddfa ar gyfer argaeledd a manylion pellach.
(Bydd angen o leiaf 3 pherson i wneud y cwrs hwn yn bosibl)



RYA: Hwylio gyda Hwyliau Trisgwar (Sbinacr)

Ar y cwrs hwn byddwch yn defnyddio amrywiaeth o’n cychod anghymesur cyffrous, a byddwch yn dysgu’r cyfan sydd angen i chi wybod am hwylio gyda hwyliau trisgwar. Byddwch hefyd yn dysgu’r theori sydd ei angen i berfformio’n dda gyda hwyliau trisgwar a hwylio’n gyflym gyda’r gwynt.

Profiad Cyn y Cwrs:   Tystysgrif RYA Lefel 2 neu Asesiad Uniongyrchol

Hyd: 2 Ddiwrnod (Penwythnos)
Cost: £155
Amser: 09:30 - 16:30
Dyddiadau: 10 / 11 Awst

Cysylltwch â’n swyddfa ar gyfer argaeledd a manylion pellach.
(Bydd angen o leiaf 3 pherson i wneud y cwrs hwn yn bosibl)



RYA: Dechrau Rasio

Ar ôl dysgu hwylio, efallai y dymunwch gychwyn rasio ac ymuno â chlwb. Bydd y cwrs hwn yn dangos i chi’r sylfeini o sut i fynd o’r llinell gychwyn ac o amgylch y cwrs. Rydym yn cynnig yr holl sgiliau angenrheidiol i fwynhau rasio clwb gan gynnwys sut i ddefnyddio cyflymder cwch i'r eithaf a sut i gael y gorau ar eich gwrthwynebwyr.

Profiad Cyn y Cwrs:   Tystysgrif RYA Lefel 2 neu Asesiad Uniongyrchol

Hyd: 2 Ddiwrnod (Penwythnos)
Cost: £155
Amser: 09:30 - 16:30
Dyddiadau: 10 / 11 Awst

Cysylltwch â’n swyddfa ar gyfer argaeledd a manylion pellach.
(Bydd angen o leiaf 3 pherson i wneud y cwrs hwn yn bosibl)



Hwylio dan Oruchwyliaeth

Ar gyfer y rheiny sydd eisoes wedi cwblhau RYA Lefel 2, rydym yn cynnig y cyfle i chi ddod i Fae Caerdydd i ymarfer eich sgiliau newydd dan ein hymbarél diogelwch. Os nad ydym yn credu bod yr amodau'n ymarferol, e.e. gwyntoedd cryfion, niwl, ayb, yna efallai bydd angen i ni ganslo'r sesiwn.

Profiad Cyn y Cwrs:   Tystysgrif RYA Lefel 2 neu Asesiad Uniongyrchol

Pris pasio: 1 Sesiwn £20
5 Sesiwn £95
10 Sesiwn £180
Amserau sydd ar gael: Dydd Mercher 18:00 – 21:00 10 Ebrill – 28 Awst
Dydd Sul 09:30 - 12:30 6 Ebrill – 6 Hydref
Diweddariadau: Diweddaraf a gwybodaeth am Hwylio dan Oruchwyliaeth ac unrhyw ganslo gall ar gael ar ein dudalennau Facebook neu Twitter.


llyfrau hwylio dingi