> Hafan > Hwylio > Gallu Hwylio

Gallu Hwylio

Hwylio yw un o'r ychydig chwaraeon lle gall pobl ag anableddau gyfranogi ar yr un termau â morwyr corfforol gymwys. Gall fod yn gamp gyffrous y gellir ei rannu â theulu a ffrindiau.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o lwybrau o sesiynau blasu syml lle byddwn yn eich rhoi chi yn y dŵr ac yn eich cyflwyno chi i'r hanfodion, i gyrsiau’n seiliedig ar Gynllun Hwylio Cenedlaethol y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA).

Rydym yn gweithio’n agos â’r Corff Llywodraethu Hwylio Cenedlaethol ynghyd â sefydliadau eraill megis yr Ymddiriedolaeth Arloesi. Â phartneriaethau fel hyn, rydym yn gallu cynnig sesiynau rheolaidd gan ganiatáu i bobl ag anableddau hwylio.

Mae gan y Ganolfan Hwylio statws Sylfaen â Gallu Hwylio'r RYA sy'n ein helpu ni i ddarparu'r cyfleusterau a'r arbenigedd sydd ei angen i alluogi pobl ag anableddau hwylio.

Cysylltwch â’r ganolfan ar y rhif (029) 20 877 977 i gael rhagor o wybodaeth

“Cynhaliodd y Ganolfan gwrs hwylio dros yr haf ar gyfer plant a phobl ifanc anabl a ddiweddodd gyda’r regata flynyddol cyntaf. Eithrir y grŵp hwn yn aml o weithgareddau anturus, felly roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan. Cafodd y bobl ifanc brofi gwir deimlad o gyrhaeddiad wedi cwblhau’r cwrs.”

Jonathon Lee, Rheolwr Cyfranogiad, Innovate Trust