> Hafan > Hwylio > Hwylio Ysgolion / Ar y Dŵ'r RYA

Ysgolion / Ar y Dŵr RYA

Mae Canolfan Hwylio Caerdydd yn cynnig gweithgareddau addysgol i ysgolion a phobl ifanc o weithgaredd unigol i raglenni wythnos o hyd. P’run ai ddiwrnod gweithgareddau diwedd y tymor ysgol, astudiaeth arall yn seiliedig ar y cwricwlwm neu ran o Ddatblygiad Sgiliau Allweddol; rydym yn cynnig ystod helaeth o raglenni a gweithgareddau ysgolion.

Gallwn gynnig gweithgareddau a chyrsiau yn ein canolfannau ac oddi ar y safle; gan ddarparu ar gyfer ystod eang o grwpiau, o ychydig o blant i ddosbarth cyfan. Cynllunnir pob cwrs a redir gan Ganolfan Hwylio Caerdydd i gefnogi Cyfnodau Allweddol 2-4 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Mae ein gweithgareddau antur yn helpu i ddatblygu sgiliau bywyd gwerthfawr megis hyder, arweinyddiaeth, hunan hyder, ysgogiad, y gallu i ddatrys problemau, cyfathrebu mewn grwpiau, a dysgu o lwyddiant a methiant.

Hwylio a Hwylfyrddio

Yn dilyn Camau 1 - 4 y RYA, bydd myfyrwyr yn ennill profiad mewn hwylio a hwylfyrddio, a gyflwynir ar y cyd â Chynllun Ar y Dŵr yr RYA.

Mae Hwylio a hwylfyrddio yn darparu amrywiaeth eang o fuddion addysgol, personol ac iechyd sy’n galluogi pobl ifanc i:

  • Ddysgu am ffitrwydd ac iechyd
  • Ddatblygu’n bersonol/cymdeithasol a meithrin sgiliau cyfathrebu
  • Dewis a dethol sgiliau, tactegau a syniadau cyfansoddiadol
  • Gwerthuso a gwella perfformiad
  • Ennill tystysgrif o faes llafur hwylio’r RYA
  • a chael hwyl yn y fargen!

Bydd eich Swyddog Datblygu Ar y Dŵr yn eich helpu i wneud yr holl drefniadau logistaidd sydd angen arnoch i gael plant ar y dŵr a gall eich helpu i fynd i’r afael ag unrhyw ofynion AALl sydd gennych gan gynnwys asesu risg.

Gallant ddod i’r ysgol a dangos beth yw hwylio a hwylfyrddio i’r disgyblion naill ai fel rhan o wers neu wasanaeth. Ein nod yw ei gwneud hi mor rhwydd â phosib i chi ychwanegu hwylio a hwylfyrddio at gwricwlwm chwaraeon yr ysgol neu'n all gwricwlaidd.

Milly Beighton yw Swyddog Datblygu Ar y Dŵr De Cymru. Gellir cysylltu ag ef yn y ffyrdd canlynol:

Ffôn: (029) 20 877 977 or 07890 008704
E-bost: gweithgareddaudwr@caerdydd.gov.uk