|
Mae Bae Caerdydd, lai na dwy filltir o'r canol wedi datblygu’n
lleoliad chwaraeon ynddo’i hun sy'n ennyn parch eang. Gall rhai sy'n mwynhau chwaraeon dŵr o bob oed a gallu
gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau mewn
amgylchedd diogel a chyffrous. Mae Canolfan
Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd (CBWAC) wedi datblygu
enw da a chryf am gynnal digwyddiadau uchel eu proffil
ar y cyd â’i brif rôl fel darparwr gweithgareddau. P’un
a ydych yn hen law ar chwaraeon dŵr neu’n chwilio am
rywbeth newydd i roi cynnig arno, gallwn gynnig
amrywiaeth o ddewisiadau dŵr i chi.
Mae’r Ganolfan ym Mae Caerdydd yn cael ei rhedeg gan
hyfforddwyr profiadol a chymwys sy’n gweithio i Awdurdod
Harbwr Caerdydd. Mae’r Ganolfan wedi derbyn tystysgrif
Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA),
Cymdeithas Frenhinol Iotio (RYA), Cymdeithas Rwyfo
Amatur Cymru (WARA) a’i gydnabod gan Canŵ Cymru (CW) ac
yn bartner allweddol i’r Gymdeithas Iotio Cymreig (WYA).
Gobeithiwn eich bod yn mwynhau darllen am y cyfleoedd
hyn a bod y wefan hon yn gam defnyddiol at gael y
profiad o chwaraeon antur ym Mae Caerdydd.
|