Gwybodaeth cwrs
Mae’r cwrs undydd hwn yn galluogi Hyfforddwyr Dingis profiadol yr RYA, sy’n frwd dros rasio, i ddatblygu’r sgiliau a’r technegau sy’n hanfodol i addysgu modiwl Dechrau Rasio’r RYA.
Efallai y bydd gwirfoddolwyr yng nghlybiau Cymru yn gymwys i dderbyn arian rhannol ar gyfer y cwrs hwn. Cysylltwch â ni am fanylion a dyddiadau.