Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth cwrs

Cwrs tridiau, wedi’i asesu gan Hyfforddwr annibynnol ar y 3ydd diwrnod, sy’n eich galluogi i ddysgu cyrsiau Lefel 1 a 2 Cychod Pŵer RYA (ynghyd â Chychod Diogelwch RYA os oes gennych y cymhwyster hwnnw.

Yn ystod y cwrs byddwch yn ymdrin ag egwyddorion cyfarwyddyd ymarferol, cynllunio gwersi, arddulliau addysgu, defnyddio cwestiynu, paratoi a defnyddio cymhorthion gweledol, asesu myfyrwyr; dysgu, egluro a chyflwyno pynciau theori, strwythur y cynllun, cynllunio sesiynau addysgu blaengar, paratoi cychod ac offer, dulliau addysgu hyd at lefel 2 Cychod Pŵer RYA.

I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn 16 oed o leiaf, wedi llwyddo yn yr asesiad sgiliau, bod â Thystysgrif Cychod Pwer Lefel 2 a thystysgrif cymorth cyntaf dilys a bod â naill ai 5 tymor o brofiad cychod pŵer wedi’u logio (mewn ystod o gychod) NEU 1 tymor i’r rhai sy’n defnyddio cychod pŵer fel rhan o’u galwedigaeth amser llawn.


Isafswm oedran

16

Hyd

3 Ddiwrnod

Cost

£375

Amserau

9:30 - 18:00

Dyddiadau

I gael ei gadarnhau