Gwybodaeth am weithgaredd
Gêm gyffrous ar gyfer grwpiau yng Nghanolfan Gweithgareddau Bae Caerdydd yw Laserblast. Dewch â’ch ffrindiau, eich teulu neu eich cydweithwyr ynghyd, rhannwch yn dimau a dewiswch eich tasg!
Mae’r gweithgaredd gwych hwn yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Bydd chwaraewyr yn gwisgo tagwyr laser ‘Predator’, sy’n gywir hyd ar bellter o hyd at 300m, ynghyd â sgôp targedu a synwyryddion taro.
Mae croeso i chwaraewyr grwydro’r Ardal Laserblast gyffrous a gwefreddiol, gydag amrywiaeth o rwystrau a rhwydi i helpu i’ch gwarchod rhag eich gwrthwynebwyr wrth i chi geisio eu tagio.
Mae Laserblast yn hwyl, yn ddiogel ac yn gwbl ddi-boen. Mae’r gynau’n defnyddio golau isgoch (yn debyg i’r dechnoleg mewn teclyn rheoli teledu o bell), felly mae 100% yn ddiogel.
UN, DAU, TRI, BANT Â NI!
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wahanol gemau ac mae gan bob un ei thasgau gwahanol ei hun. Mae’r rhan fwyaf o gemau’n para 10-15 munud ac yn amrywio o ran amcanion, megis dileu tîm, comander tanc, cipio’r faner a llawer mwy. Rydym yn hoffi cymysgu ein tasgau ac rydym yn agored i unrhyw awgrymiadau!