Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth am weithgaredd

Ydych chi erioed wedi bod eisiau saethu saethau fel Robin Hood, Legolas neu Katniss Everdeen?

Yng Nghanolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd, rydym yn cynnig amgylchedd difyr a chyfeillgar lle gallwch chi a’ch teulu ddysgu saethu saeth fel yr enwog Robin Hood!

A hwythau’n arweinwyr saethyddiaeth â chymeradwyaeth y DU, bydd pob un o’n hyfforddwyr yn rhannu eu gwybodaeth i’ch helpu i symud ymlaen trwy ein cyrsiau dechreuwyr a chanolradd.

Rydym yn cynnig cwrs pedair sesiwn i ddechreuwyr y gellir eu trefnu yn ôl eich amserlen. Ar gyfer unigolion, rydym yn cynnal cyrsiau ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed, ac oedolion dros 16 oed. Fel arall, rydym yn rhoi gostyngiad i deulu o bedwar (dau oedolyn a dau blentyn), a sesiynau blasu neu saethyddiaeth fel rhan o becyn aml-weithgaredd.

Mae’r cwrs canolradd yn eich dysgu sut i fireinio eich technegau gan ddefnyddio gwahanol ystodau a thargedau, yn ogystal â hanfodion cynnal a chadw bwa, megis gosod llinynnau, ailadeiladu a phluo.

Am brisiau sesiynau blasu neu saethyddiaeth fel rhan o becyn aml-weithgaredd, cysylltwch â Dave ein Prif Saethydd ar 029 2035 3912.


Hyd

Sesiwn 60 munud

Prisiau dechreuwyr a chanolradd

O £20 y person – cyfraddau grŵp ar gael