Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth am weithgaredd

Ers dros ddegawd, mae ecoleg Bae Caerdydd wedi galluogi datblygu pysgodfa fras iach, gydag amrywiaeth dda o gynefinoedd a rhywogaethau o bysgod, a ddylai gynnal diddordeb pysgotwyr newydd a phrofiadol. Ymhlith y rhywogaethau sy’n bresennol mae’r rhufellod, cochgangod, darsod, draenogiaid dŵr croyw, rhuddbysgod, merfogiaid, cerpynnod a phenhwyaid. Yn ystod misoedd yr haf, mae hyrddiaid yn ymwelwyr rheolaidd, sy’n rhoi cyfleoedd pysgota ychwanegol.

Agorwyd y Bae ar gyfer pysgota bras yn 2010 mewn ardaloedd dethol, ac ers hynny mae diddordeb wedi parhau i dyfu, wrth i fwyfwy o bobl ddod i bysgota yn yr ardal. Mae ansawdd dŵr da yn y Bae a digonedd o gadwyni bwyd ar gyfer y pysgod eisoes wedi arwain at gyfraddau twf rhagorol ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau, ac mae potensial cryf i ddal pysgod sbesimen yn y dyfodol.

Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn parhau i ddatblygu a gwella cyfleusterau pysgota, yn ogystal â gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion ar ddiwrnodau pysgota rhagarweiniol i bobl sydd â diddordeb yn y gamp. Mae gennym hefyd gysylltiadau agos â sefydliadau eraill sy’n gysylltiedig â physgota, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Ffederasiwn Pysgotwyr Cymru (y corff llywodraethu) a chlybiau pysgota lleol.