{"id":138,"date":"2021-06-14T12:01:01","date_gmt":"2021-06-14T12:01:01","guid":{"rendered":"http:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/?page_id=138"},"modified":"2021-09-05T21:57:09","modified_gmt":"2021-09-05T21:57:09","slug":"cwestiynau-cyffredin","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/cwestiynau-cyffredin\/","title":{"rendered":"Cwestiynau Cyffredin"},"content":{"rendered":"<p>Lluniwyd y dudalen Cwestiynau Cyffredin hon i ateb llawer o\u2019ch ymholiadau. Os na allwch ddod o hyd i&#8217;ch cwestiwn isod, <a href=\"http:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/\">cysylltwch \u00e2 ni<\/a>\u00a0a byddwn yn hapus i helpu.<\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>Alla i archebu fel unigolyn?<br \/>\n<\/strong>Gallwch. Rydym yn darparu ar gyfer campwyr amatur a phroffesiynol o 11 oed ymlaen. Mae croeso i bobl ifanc neu oedolion wneud archeb unigol.<\/p>\n<p><strong>Alla i archebu fel rhan o gr\u0175p?<br \/>\n<\/strong>Gallwch. Gallwn ddarparu ar gyfer hyd at 35 o bobl. Bydd archebu mor gynnar \u00e2 phosibl ar gyfer grwpiau o fwy na 12. <a href=\"http:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/\">Cysylltwch \u00e2\u2019r ganolfan<\/a> i gael rhagor o fanylion.<\/p>\n<p><strong>Gaf i ymweld \u00e2 chi cyn archebu i gael gwybod mwy?<\/strong><br \/>\nCewch. Galwch heibio i edrych o gwmpas y lleoliad. Mae croeso i arweinwyr gr\u0175p, rhieni ac unigolion fynd ar daith o amgylch y cyfleusterau a gwylio&#8217;r gweithgareddau ar waith. <a href=\"http:\/\/www.cbwac.com\/rowing\/contact\/\">Cysylltwch \u00e2\u2019r ganolfan<\/a> i drefnu eich ymweliad.<\/p>\n<p><strong>Oes angen i mi dalu ymlaen llaw?<\/strong><br \/>\nOes. Mae\u2019n rhaid talu am ein holl gyrsiau wrth archebu er mwyn sicrhau lle ar gwrs penodol. Unwaith y byddwch wedi talu am y cwrs, bydd 25% o ffi&#8217;r cwrs yn cael ei ystyried yn flaendal.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd yn gynwysedig yng nghost y cwrs?<\/strong><br \/>\nMae prisiau&#8217;r cwrs yn cynnwys yr holl hyfforddiant a&#8217;r defnydd o offer. Mae taliadau ieuenctid yn berthnasol i fyfyrwyr 8-16 oed.<\/p>\n<p><strong>Beth nad yw\u2019n gynwysedig yng nghost y cwrs?<\/strong><br \/>\nNid yw prisiau&#8217;r cwrs yn cynnwys cinio, esgidiau, tyweli nac unrhyw ffioedd arholiad (oni nodir yn wahanol).<\/p>\n<p><strong>A fyddaf yn derbyn cadarnhad archebu?<\/strong><br \/>\nByddwch. Unwaith y bydd archeb wedi&#8217;i derbyn, byddwch yn derbyn cadarnhad archeb gennym a fydd yn cynnwys eich cyfarwyddiadau ymuno a chyfarwyddiadau ar gyfer cyrraedd y ganolfan, yn ogystal \u00e2 dolenni i&#8217;n telerau ac amodau.<\/p>\n<p><strong>Alla i newid fy archeb?<\/strong><br \/>\nGallwch. Byddwn yn ceisio darparu ar gyfer unrhyw newidiadau i&#8217;ch archeb, ond gellid codi ffi weinyddol ar gyfer newidiadau a wneir llai na thair wythnos cyn y cwrs.<\/p>\n<p><strong>Mae angen i mi ganslo fy nghwrs \u2013 beth dylwn i ei wneud?<\/strong><br \/>\nSicrhewch eich bod yn gyfarwydd \u00e2&#8217;n polisi canslo a amlinellir yn ein\u00a0<a href=\"http:\/\/www.cbwac.com\/hwylio\/telerau-ac-amodau\/\">Telerau ac Amodau<\/a>. I ganslo eich gweithgaredd, e-bostiwch\u00a0<a href=\"mailto:mhnatiw@caerdydd.gov.uk\">mhnatiw@caerdydd.gov.uk<\/a>\u00a0a rhoi cymaint o rybudd \u00e2 phosibl i ni.<\/p>\n<p><strong>Pa mor brofiadol yw eich staff?<\/strong><br \/>\nMae pob aelod o&#8217;r t\u00eem yn ymrwymo i sicrhau bod rhaglenni&#8217;n cael eu cyflwyno at y safonau proffesiynol uchaf.<\/p>\n<p>Mae gan bob un o&#8217;n hyfforddwyr gymwysterau hyfforddwr corff llywodraethu cenedlaethol priodol gan British Rowing neu gorff perthnasol arall, ac mae ganddynt y profiad angenrheidiol yn y gweithgareddau y maent yn eu goruchwylio.<\/p>\n<p><strong>Mae gen i anabledd \u2013 alla i gymryd rhan?<\/strong><br \/>\nGallwch. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a rhoi cyfleoedd i bawb trwy ddarparu gweithgareddau antur hygyrch.<\/p>\n<p><strong>A oes terfynau oedran?<\/strong><br \/>\nOes. Mae cyrsiau ieuenctid ar gyfer myfyrwyr sy\u2019n 8-16 oed ar adeg y cwrs. Mae cyrsiau oedolion ar gyfer myfyrwyr sy\u2019n 16+ oed. Mae angen caniat\u00e2d rhieni ar gyfer pob un sydd dan 18 oed. Mae gan gyrsiau Cychod P\u0175er a Hyfforddwyr derfynau oedran gofynnol penodol a nodir ar gyfer pob cwrs.<\/p>\n<p><strong>Oes angen i mi aros ar y safle tra mae fy mhlant ar gwrs?<\/strong><br \/>\nNac oes. Nid oes gofyniad i aros ar y safle yn ystod y cwrs, ond sicrhewch fod eich plentyn yn cofrestru gyda staff y ganolfan cyn i chi adael, a sicrhewch eich bod yn barod i&#8217;w gasglu\u2019n brydlon ar ddiwedd y cwrs.<\/p>\n<p><strong>Pa mor ffit mae angen i mi fod? Oes angen i mi allu nofio?<\/strong><br \/>\nDylai fod gan bob myfyriwr lefel resymol o ffitrwydd er mwyn mwynhau ei gwrs, a dylai o leiaf fod yn hyderus yn y d\u0175r. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gyflyrau meddygol, cysylltwch \u00e2&#8217;ch meddyg i ofyn am gyngor ynghylch a ddylech gymryd rhan.<\/p>\n<p><strong>A fydd fy ngweithgaredd yn digwydd mewn tywydd gwael?<\/strong><br \/>\nMae&#8217;r holl weithgareddau&#8217;n amodol ar y tywydd, a allai arwain at ganslo cyrsiau. Byddwn yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer pob ymrwymiad archebu pe bai angen canslo cwrs. Amlinellir y rhain yn ein\u00a0<a href=\"http:\/\/www.cbwac.com\/hwylio\/telerau-ac-amodau\/\">Telerau ac Amodau.<\/a><\/p>\n<p><strong>Alla i ddod \u00e2&#8217;m hoffer fy hun?<\/strong><br \/>\nMae gennym yr holl offer sydd eu hangen arnoch i fwynhau yn ddiogel. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno dod \u00e2&#8217;ch offer eich hun, mae hyn yn iawn, ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod i ni yn gyntaf. Sylwch y byddwch yn dod \u00e2&#8217;ch offer a&#8217;i ddefnyddio ar eich menter eich hun ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod neu golled i&#8217;ch offer.<\/p>\n<p><strong>Ydych chi&#8217;n darparu llety?<\/strong><br \/>\nOs oes angen rhywle arnoch i aros tra byddwch ar eich cwrs gyda ni, gallwch\u00a0<a href=\"https:\/\/www.kayak.co.uk\/Cardiff-Hotels.6056.hotel.ksp\">chwilio yma am westai lleol<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Alla i brynu cinio ar y safle?<\/strong><br \/>\nYn anffodus, na allwch. Argymhellir eich bod yn dod \u00e2 phecyn cinio gyda chi pan fyddwch yn dod am sesiwn diwrnod llawn, gan nad oes gennym gyfleusterau arlwyo yn y ganolfan.<\/p>\n<p><strong>A oes loceri y gallaf eu defnyddio?<\/strong><br \/>\nOes, mae gennym loceri ar gael i gadw eich pethau gwerthfawr yn ddiogel.<\/p>\n<p><strong>Ydych chi&#8217;n lleoliad ecogyfeillgar?<\/strong><br \/>\nMae&#8217;r rhai sy&#8217;n treulio ein hamser hamdden yn yr awyr agored yn ymwybodol iawn o&#8217;r angen i ddiogelu&#8217;r amgylchedd naturiol trwy fabwysiadu arferion sy&#8217;n amgylcheddol gyfrifol. Mae gennym\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bsigroup.com\/en-GB\/iso-14001-environmental-management\/\">BSI EN ISO 14001: Rheoli Amgylcheddol<\/a>, safon rheoli amgylcheddol fwyaf cydnabyddedig y byd, sy\u2019n cyd-fynd \u00e2 pholisi cynaliadwyedd <a href=\"https:\/\/cardiffharbour.com\/cy\/\">Awdurdod Harbwr Caerdydd<\/a>\u00a0a\u00a0<a href=\"http:\/\/www.caerdydd.gov.uk\">Chyngor Caerdydd<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Lluniwyd y dudalen Cwestiynau Cyffredin hon i ateb llawer o\u2019ch ymholiadau. Os na allwch ddod o hyd i&#8217;ch cwestiwn isod, cysylltwch \u00e2 ni\u00a0a byddwn yn hapus i helpu. Alla i archebu fel unigolyn? Gallwch. Rydym yn darparu ar gyfer campwyr amatur a phroffesiynol o 11 oed ymlaen. Mae croeso i bobl ifanc neu oedolion wneud [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-138","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/138","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=138"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/138\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":224,"href":"https:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/138\/revisions\/224"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cbwac.com\/rhwyfo\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=138"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}