Gwybodaeth cwrs
Nod y dilyniant hwn o Llafnau Un yw datblygu sgiliau cychod ymhellach mewn cragen rasio lai. Bydd y cwrs yn mireinio’r sgiliau a ddysgwyd yn Llafnau Un ac yn galluogi dilyniant i gychod llai.
FFORMAT NEWYDD
Trwy grynhoi’r cwrs dros ddau ddiwrnod, gyda dwy sesiwn y dydd a seibiant byr rhyngddynt, bydd mwy o amser i’w dreulio yn y cwch a llai o amser yn aros am rieni!
Mae’r prif gyrsiau wedi’u rhestru, ond os oes mwy o alw, byddwn yn cynnal mwy o gyrsiau.
D.S. Pan fo sesiynau ar ŵyl banc, caiff y cwrs ei gynnal ar y dydd Mawrth/Mercher yn lle hynny, oni nodir yn wahanol.