Neidio i'r prif gynnwys

Rydym yn falch o gynnig mynediad i lithrfa Canolfan Rhwyfo Caerdydd, sydd yng Nghanolfan Hamdden Trem y Môr. Ar hyn o bryd mae dau fath o fynediad:

Trwyddedau Dydd

Mae trwydded undydd yn caniatáu mynediad rhwng 09:00 a 16:30. (ac eithrio Gwyliau Banc)

£15 – Cychod modur, cychod hwyliau a chychod padlo amlfeddiannaeth. (Bydd yn cynyddu o fis Ebrill)

£5 – Caiacau, padlfyrddau a chychod padlo meddiannaeth sengl eraill.

Trwyddedau Blynyddol

Mae cost y drwydded yn seiliedig ar nifer metrau’r cwch; er enghraifft, bydd llestr 5 metr yn costio £210 am y cyfnod. Mae hyn yn caniatáu mynediad heb gyfyngiad bob amser, cyn belled â’i bod yn ddiogel gwneud hynny ac yn unol â’r rheolau a’r rheoliadau a bennir gan yr Harbwrfeistr.

Cysylltwch â’r ganolfan ar 029 2035 3912 i drafod yr opsiwn gorau i chi.

Gwybodaeth Bwysig

Sylwch fod terfynau cyflymder ar waith ar y ddwy afon, yn yr Harbwr Mewnol a ger y lociau, sy’n rhan o Is-ddeddfau Bae Caerdydd. Mae peidio â chydymffurfio â darpariaethau Is-ddeddfau a chyfarwyddiadau staff Awdurdod yr Harbwr yn droseddau y gellir erlyn troseddwyr am eu cyflawni.

Yn aml, mae Hysbysiadau Lleol ychwanegol i Forwyr ar waith, sydd i’w gweld yn www:cardiffharbour.com/cy/local-notices-to-mariners/. Eich dyletswydd chi yw bod yn ymwybodol o’r rhain cyn lansio unrhyw gwch. Gall peidio â chydymffurfio arwain at ddiddymu eich mynediad i’r Bae.

Mae’r Harbwrfeistr ar gael trwy ffonio 029 2087 7900 yn ystod oriau gwaith arferol.