Gwybodaeth am weithgaredd
Os ydych chi erioed wedi bod mewn campfa, mae’n debyg y byddwch wedi dod ar draws y peiriant rhwyfo dan do Concept2. Mae’r cyfarpar hwn i’w weld mewn campfeydd, clybiau rhwyfo, ysgolion a chanolfannau hyfforddi Olympaidd ledled y byd.
Mae rhwyfo’n ymarfer heb wrthdaro ac mae’r dwysedd yn cael ei reoli’n llwyr gan y defnyddiwr, sy’n golygu y gallwch rwyfo mor galed neu mor hawdd ag y dymunwch, gan ei wneud yn addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu. Bydd cyfranogwyr yn credu mai rhwyfo yw’r ymarfer effaith isel gorau sydd ar gael i’r corff cyfan, oherwydd:
- Mae’n darparu ymarfer aerobig gwych.
- Mae’n ymarfer pob prif grŵp o gyhyrau.
- Mae’n fath o ymarfer corff sy’n effeithlon o ran amser ac yn ffordd ardderchog o ryddhau straen.
- Mae’n cefnogi pwysau ac nid yw’n ysgytiol, felly mae’n ddelfrydol ar gyfer ymarfer adsefydlu.
- Gall fod yn ymarfer effeithiol iawn ar gyfer llosgi braster a cholli pwysau.
- Mae’n ymarfer gydol oes, sy’n addas i bobl o bob oed.
- Mae’n defnyddio symudiad llyfn, rhythmig sy’n ddiogel ac yn bleserus.
Mae cwrs hanner diwrnod Canolfan Rhwyfo Caerdydd yn agored i bobl o bob oed a lefel o ffitrwydd a phrofiad. Mae’n dysgu dechreuwyr a chyfranogwyr mwy profiadol sut i wella eu techneg a chael mwy o fudd wrth ddefnyddio’r peiriant.
Mae’r cwrs yn datblygu pedwar sgil craidd:
- Cyflwyno rhywun heb unrhyw brofiad blaenorol o rwyfo i’r peiriant a’i addysgu sut i rwyfo gyda thechneg dda.
- Nodi a chywiro’r diffygion technegol mwyaf cyffredin.
- Amlinellu swyddogaethau sylfaenol y monitor perfformiad er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o’r peiriant.
- Helpu unigolion i osod a chyflawni nodau realistig ond heriol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mike Hnatiw: