Mae ansawdd y dŵr ym Mae Caerdydd yn amrywio o ddydd i ddydd. Caiff ei fonitro gan Dîm Amgylchedd Awdurdod Harbwr Caerdydd (CHA), sy’n darparu rhagfynegiad ansawdd dyddiol gan nodi a fydd yn cyrraedd y safon neu beidio.
Taflen Diogelwch y Bae Rhagolwg Ansawdd Dŵr
Ym mhob darn o ddŵr croyw agored yn y DU, mae risg o ddal amrywiaeth o heintiau a chlefydau, yn enwedig ymhlith pobl sydd ag ymateb imiwnolegol gwanach. Mae’r mathau o heintiau sy’n gyffredin yn cynnwys mân anhwylderau gastroberfeddol; heintiau llygaid, clustiau a gwddw; teiffoid; dysentri; a hepatitis A heintus. Mae’r risg yn codi’n fawr wrth lyncu’r dŵr.
Dyma un o’r rhesymau na chaniateir chwaraeon dŵr sy’n eich trochi, megis nofio, sgïo dŵr a hwylfyrddio dim ond pan fo Awdurdod yr Harbwr yn awdurdodi hynny. Mae rhestr o’r gweithgareddau dŵr a waherddir ar gael gan yr awdurdod.
Er y gall imiwneiddio leihau’r risg o ddal clefydau penodol, nid oes brechlyn ar gael ar gyfer rhai eraill, e.e. clefyd Weil (leptosbirosis). Nid yw clefyd Weil yn gyffredin ac mae’r risg o’i ddal yn isel, ond gall achosi salwch difrifol, neu hyd yn oed marwol.
Beth dylwn i ei wneud?
Os nad ydych yn teimlo’n dda ar ôl dod i gysylltiad â dŵr agored, dylech weld meddyg ar unwaith.
Beth gellir ei wneud i leihau’r perygl?
Mae’r perygl o gael salwch difrifol yn isel, ond trwy fod yn ofalus mae modd lleihau’r perygl ymhellach. Dylech orchuddio unrhyw doriad yn y croen â gorchudd gwrth-ddŵr; gwisgo esgidiau pwrpasol i ddiogelu eich traed; osgoi llyncu dŵr; ac osgoi mynd o dan y dŵr yn ddiangen, yn enwedig eich pen. Os ydych wedi bod mewn cysylltiad â dŵr y Bae, dylech ymolchi neu gael cawod ar ôl hynny gan ddefnyddio sebon a dŵr croyw, yn enwedig cyn yfed a bwyta.
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl afiechydon posibl a gludir gan ddŵr, ewch i’r wefan ganlynol: www.nhs.uk.