Mae Canolfan Rhwyfo Caerdydd yn rhan o Ganolfan Hamdden Trem y Môr yn Grangetown ar lannau Afon Taf.
Cyfarwyddiadau
I gyrraedd Bae Caerdydd o’r draffordd, gadewch yr M4 ar gyffordd 33 a dilyn yr A4232 i’r Bae, gan ymadael ar y gyffordd wrth arwydd Parc Manwerthu Bae Caerdydd. Cymerwch yr allanfa gyntaf ar y gylchfan.
Gan ddilyn arwyddion ar gyfer IKEA, trowch i’r dde wrth y goleuadau traffig, yna cymerwch yr allanfa gyntaf oddi ar y gylchfan.
Gadewch y gylchfan nesaf ar yr ail ffordd, yna’r drydedd oddi ar gylchfan IKEA. Ewch yn syth drwy’r goleuadau traffig, gan yrru wrth ymyl Parc Marl. Ar ôl y parc, trowch i’r dde ar Jim Driscoll Way, lle mae arwydd ar gyfer Canolfan Hamdden Trem y Môr.
Mae lle parcio ar gael naill ai o flaen y ganolfan hamdden yn y prif faes parcio, gyferbyn â’r ganolfan, neu wrth ymyl y llithrfa.
Ein cod post ar gyfer defnyddwyr llywiwr lloeren yw CF11 7HB.
- Mae mynediad i gerddwyr a beicwyr trwy Grangetown neu o Lwybr y Bae
- Y gorsafoedd trenau agosaf yw Grangetown (taith gerdded 15 munud) a Bae Caerdydd (taith gerdded 20 munud).