Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth cwrs

Llafnau 1 yw’r cam cyntaf yn y broses o ddysgu sut i rodli a rhwyfo. Ar y cwrs, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio peiriant rhwyfo dan do yn effeithiol, sut i lansio cwch yn ddiogel a thechnegau rhodli sylfaenol fel unigolyn ac fel aelod o griw. Byddwch hefyd yn dod yn gyfarwydd â therminoleg sylfaenol am eich cwch a’ch rhwyfau.

Mae’r holl gyfranogwyr yn dechrau ar yr un lefel, felly does dim pwysau i ddysgu’n gyflym. Bydd pawb yn gwneud camgymeriadau, ond y peth pwysicaf yw cael hwyl, cwrdd â phobl newydd a dysgu rhywbeth newydd, ac os oes gennych unrhyw broblemau, bydd rhwyfwyr hamdden wrth law i ddweud wrthych yn uniongyrchol beth i’w ddisgwyl!

D.S. Bydd unrhyw sesiynau gŵyl banc yn symud i ddydd Mawrth ar gyfer y sesiwn honno yn unig.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ben Allen:

Ff: 029 2035 3912

E: wateractivity@caerdydd.gov.uk

2025 Dyddiadau: Boreau Sul Nos Mawrth
5, 12, 19 Ebrill 7, 14, 21 Ebrill
3, 10, 17 Mai 5, 12, 19 Mai
17, 14, 21 Mehefin 2, 9, 16 Mehefin
5, 12, 19 Gorffennaf 7, 14, 21 Gorffennaf
2, 9, 16 Awst 4, 11, 18 Awst
6, 13, 20 Medi 1, 8, 15 Medi
4, 11, 18 Hydref

 


Hyd

3 bore Sul neu 3 nos Lun

Cost

rhag £95

Oriau

9:30 - 12:00 neu 17:30 - 20:00

Profiad

Dim

Cymhareb hyfforddwyr i fyfyrwyr

Uchafswm 1:4