Gwybodaeth cwrs
Llafnau 1 yw’r cam cyntaf yn y broses o ddysgu rhwyfo a rhodli. Ar y cwrs, byddwch yn dysgu lansio cwch yn ddiogel, technegau rhodli sylfaenol fel unigolyn ac fel aelod o griw, a therminoleg hanfodol am eich cwch a’ch rhwyfau. Byddwch hefyd dysgu defnyddio peiriant rhwyfo dan do, er bod 90% o’r cwrs yn seiliedig ar y dŵr.
Ein nod yw cadw’r cwrs mor ymarferol a chorfforol actif â phosibl er mwyn galluogi cyfranogwyr i fabwysiadu’r technegau gofynnol, er bod y sesiynau’n cynnwys seibiannau aml, sy’n gwneud y cwrs yn addas i bawb. Darperir adborth gan hyfforddwyr yn barhaus oherwydd cymhareb uchafswm o un hyfforddwr i bedwar cyfranogwr, gan alluogi pawb i wneud cynnydd yn gyflym.
Mae’r holl gyfranogwyr yn dechrau ar yr un lefel, a does dim pwysau i ddysgu’n gyflym. Bydd pawb yn gwneud camgymeriadau, ond y peth pwysicaf yw cael hwyl, cwrdd â phobl newydd a dysgu rhywbeth newydd. Os oes gennych unrhyw broblemau, bydd rhwyfwyr hamdden wrth law i ddweud wrthych yn uniongyrchol beth i’w ddisgwyl!
Rhestrir y prif gyrsiau yma, ond os oes mwy o alw, byddwn yn cynnal mwy o gyrsiau.
D.S. Bydd unrhyw sesiynau gŵyl banc yn dechrau ar ddydd Mawrth yn lle hynny.