Neidio i'r prif gynnwys

Lluniwyd y dudalen Cwestiynau Cyffredin hon i ateb llawer o’ch ymholiadau. Os na allwch ddod o hyd i’ch cwestiwn isod, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i helpu.


Alla i archebu fel unigolyn?
Gallwch. Rydym yn darparu ar gyfer campwyr amatur a phroffesiynol o 11 oed ymlaen. Mae croeso i bobl ifanc neu oedolion wneud archeb unigol.

Alla i archebu fel rhan o grŵp?
Gallwch. Gallwn ddarparu ar gyfer hyd at 35 o bobl. Bydd archebu mor gynnar â phosibl ar gyfer grwpiau o fwy na 12. Cysylltwch â’r ganolfan i gael rhagor o fanylion.

Gaf i ymweld â chi cyn archebu i gael gwybod mwy?
Cewch. Galwch heibio i edrych o gwmpas y lleoliad. Mae croeso i arweinwyr grŵp, rhieni ac unigolion fynd ar daith o amgylch y cyfleusterau a gwylio’r gweithgareddau ar waith. Cysylltwch â’r ganolfan i drefnu eich ymweliad.

Oes angen i mi dalu ymlaen llaw?
Oes. Mae’n rhaid talu am ein holl gyrsiau wrth archebu er mwyn sicrhau lle ar gwrs penodol. Unwaith y byddwch wedi talu am y cwrs, bydd 25% o ffi’r cwrs yn cael ei ystyried yn flaendal.

Beth sydd yn gynwysedig yng nghost y cwrs?
Mae prisiau’r cwrs yn cynnwys yr holl hyfforddiant a’r defnydd o offer. Mae taliadau ieuenctid yn berthnasol i fyfyrwyr 8-16 oed.

Beth nad yw’n gynwysedig yng nghost y cwrs?
Nid yw prisiau’r cwrs yn cynnwys cinio, esgidiau, tyweli nac unrhyw ffioedd arholiad (oni nodir yn wahanol).

A fyddaf yn derbyn cadarnhad archebu?
Byddwch. Unwaith y bydd archeb wedi’i derbyn, byddwch yn derbyn cadarnhad archeb gennym a fydd yn cynnwys eich cyfarwyddiadau ymuno a chyfarwyddiadau ar gyfer cyrraedd y ganolfan, yn ogystal â dolenni i’n telerau ac amodau.

Alla i newid fy archeb?
Gallwch. Byddwn yn ceisio darparu ar gyfer unrhyw newidiadau i’ch archeb, ond gellid codi ffi weinyddol ar gyfer newidiadau a wneir llai na thair wythnos cyn y cwrs.

Mae angen i mi ganslo fy nghwrs – beth dylwn i ei wneud?
Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’n polisi canslo a amlinellir yn ein Telerau ac Amodau. I ganslo eich gweithgaredd, e-bostiwch mhnatiw@caerdydd.gov.uk a rhoi cymaint o rybudd â phosibl i ni.

Pa mor brofiadol yw eich staff?
Mae pob aelod o’r tîm yn ymrwymo i sicrhau bod rhaglenni’n cael eu cyflwyno at y safonau proffesiynol uchaf.

Mae gan bob un o’n hyfforddwyr gymwysterau hyfforddwr corff llywodraethu cenedlaethol priodol gan British Rowing neu gorff perthnasol arall, ac mae ganddynt y profiad angenrheidiol yn y gweithgareddau y maent yn eu goruchwylio.

Mae gen i anabledd – alla i gymryd rhan?
Gallwch. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a rhoi cyfleoedd i bawb trwy ddarparu gweithgareddau antur hygyrch.

A oes terfynau oedran?
Oes. Mae cyrsiau ieuenctid ar gyfer myfyrwyr sy’n 8-16 oed ar adeg y cwrs. Mae cyrsiau oedolion ar gyfer myfyrwyr sy’n 16+ oed. Mae angen caniatâd rhieni ar gyfer pob un sydd dan 18 oed. Mae gan gyrsiau Cychod Pŵer a Hyfforddwyr derfynau oedran gofynnol penodol a nodir ar gyfer pob cwrs.

Oes angen i mi aros ar y safle tra mae fy mhlant ar gwrs?
Nac oes. Nid oes gofyniad i aros ar y safle yn ystod y cwrs, ond sicrhewch fod eich plentyn yn cofrestru gyda staff y ganolfan cyn i chi adael, a sicrhewch eich bod yn barod i’w gasglu’n brydlon ar ddiwedd y cwrs.

Pa mor ffit mae angen i mi fod? Oes angen i mi allu nofio?
Dylai fod gan bob myfyriwr lefel resymol o ffitrwydd er mwyn mwynhau ei gwrs, a dylai o leiaf fod yn hyderus yn y dŵr. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gyflyrau meddygol, cysylltwch â’ch meddyg i ofyn am gyngor ynghylch a ddylech gymryd rhan.

A fydd fy ngweithgaredd yn digwydd mewn tywydd gwael?
Mae’r holl weithgareddau’n amodol ar y tywydd, a allai arwain at ganslo cyrsiau. Byddwn yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer pob ymrwymiad archebu pe bai angen canslo cwrs. Amlinellir y rhain yn ein Telerau ac Amodau.

Alla i ddod â’m hoffer fy hun?
Mae gennym yr holl offer sydd eu hangen arnoch i fwynhau yn ddiogel. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno dod â’ch offer eich hun, mae hyn yn iawn, ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod i ni yn gyntaf. Sylwch y byddwch yn dod â’ch offer a’i ddefnyddio ar eich menter eich hun ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod neu golled i’ch offer.

Ydych chi’n darparu llety?
Os oes angen rhywle arnoch i aros tra byddwch ar eich cwrs gyda ni, gallwch chwilio yma am westai lleol.

Alla i brynu cinio ar y safle?
Yn anffodus, na allwch. Argymhellir eich bod yn dod â phecyn cinio gyda chi pan fyddwch yn dod am sesiwn diwrnod llawn, gan nad oes gennym gyfleusterau arlwyo yn y ganolfan.

A oes loceri y gallaf eu defnyddio?
Oes, mae gennym loceri ar gael i gadw eich pethau gwerthfawr yn ddiogel.

Ydych chi’n lleoliad ecogyfeillgar?
Mae’r rhai sy’n treulio ein hamser hamdden yn yr awyr agored yn ymwybodol iawn o’r angen i ddiogelu’r amgylchedd naturiol trwy fabwysiadu arferion sy’n amgylcheddol gyfrifol. Mae gennym BSI EN ISO 14001: Rheoli Amgylcheddol, safon rheoli amgylcheddol fwyaf cydnabyddedig y byd, sy’n cyd-fynd â pholisi cynaliadwyedd Awdurdod Harbwr Caerdydd a Chyngor Caerdydd.