Gwybodaeth am weithgaredd
Wedi’i lleoli ar y Morglawdd ym Mae Caerdydd, mae Canolfan Hwylio Caerdydd yn lleoliad unigryw ar gyfer dydd meithrin tîm neu ddigwyddiad corfforaethol.
Gallwn gynnig amrywiaeth o weithgareddau y gellir eu cymysgu a’u paru i greu profiad hwyliog a chyffrous ar y dŵr ac oddi arno. Gellir teilwra’r rhain i herio eich tîm, a datblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu, hyder ac arweinyddiaeth.
Rydym wedi cynnal dyddiau llwyddiannus yn y gorffennol am Grŵp yr RPA a HSBC, ymhlith eraill.
Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion a byddwn yn ymdrechu i greu digwyddiad bythgofiadwy.