Mae Canolfan Hwylio Caerdydd wedi bod yn Ganolfan Flaenllaw ar gyfer Rhaglen Hwylio Rebels ers 2019.
Mae’r fenter hwylio genedlaethol ar gyfer pobl ifanc ddifreintiedig 11-14 oed yn cael ei chefnogi’n hael gan INEOS, y cwmni sy’n gyfrifol am INEOS TEAM UK. Nhw yw’r Prydeinwyr sy’n cystadlu am Gwpan America, dan arweiniad Syr Ben Ainslie, y morwr Olympaidd mwyaf llwyddiannus erioed, ac a drefnir gan yr 1851 Trust.
Nod y prosiect yw rhoi profiadau hwylio i bobl ifanc na fyddent fel arall yn cael y fath gyfle. Mae’r profiadau’n rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu sgiliau bywyd pwysig fel hyder, gwydnwch a gwaith tîm.
Mae’r cyfleoedd hwylio ym mhob canolfan wedi’u hariannu’n llawn, a gall myfyrwyr gymryd rhan mewn sesiwn ‘gyflwyno’ neu weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig cenedlaethol fel Cam 1 neu 2 yr RYA.
Os hoffech gymryd rhan yn y rhaglen a bod eich ysgol yn bodloni’r meini prawf o ganran premiwm disgyblion o fwy na 35%, neu PYADd o fwy nag 20% yng Nghymru, a’i bod wedi’i lleoli o fewn 20 milltir i Ganolfan Hwylio Caerdydd, cysylltwch â ni trwy:
Ff: (029) 20 877 977
E: wateractivity@cardiff.gov.uk