Mae Canolfan Hwylio Caerdydd yn cynnig gweithgareddau addysgol i ysgolion a phobl ifanc o weithgareddau unigol i raglenni wythnos o hyd. P’un a yw’n ddydd gweithgaredd diwedd tymor ysgol, yn astudiaeth amgen sy’n seiliedig ar y cwricwlwm neu’n rhan o Ddatblygu Sgiliau Allweddol, rydym yn cynnig ystod eang o raglenni a gweithgareddau ysgolion.
Gallwn gynnal gweithgareddau a chyrsiau yn ein canolfannau ac oddi ar y safle, gan ddarparu ar gyfer ystod eang o grwpiau, o ychydig o blant i ddosbarth cyfan. Mae’r holl gyrsiau sy’n cael eu cynnal gan y Ganolfan wedi’u cynllunio i gefnogi Cyfnodau Allweddol 2 – 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Mae ein gweithgareddau antur yn helpu pobl ifanc i fagu sgiliau bywyd gwerthfawr, fel hyder, arweinyddiaeth, hunan-barch, cymhelliant, gallu datrys problemau, cyfathrebu grŵp a dysgu o lwyddo a methu.
I weld rhestr o ysgolion sydd wedi mynychu’r ganolfan ers i ni agor ym 1974, cliciwch yma.
Hwylio
Yn dilyn Camau 1 – 4 yr RYA, bydd myfyrwyr yn cael profiad o hwylio, a ddarperir ar y cyd â Chynllun Bwrdd yr RYA.
Mae hwylio’n dwyn amrywiaeth eang o fuddion addysgol, personol ac iechyd, sy’n galluogi pobl ifanc i:
- Ennill gwybodaeth am ffitrwydd ac iechyd
- Meithrin sgiliau datblygu personol/cymdeithasol a chyfathrebu
- Dewis a defnyddio sgiliau, tactegau a syniadau cyfansoddiadol
- Gwerthuso a gwella perfformiad
- Ennill tystysgrif o faes llafur hwylio’r RYA
- Cael llawer o hwyl ar yr un pryd!
Byddwn yn eich helpu i wneud yr holl drefniadau ymarferol sydd eu hangen arnoch i fynd â phlant ar y dŵr a gallwn eich helpu i fodloni unrhyw ofynion AALl, gan gynnwys asesiadau risg.
Gallwn ddod i mewn i’r ysgol a dangos i ddisgyblion, naill ai fel rhan o wers neu wasanaeth, beth yw hwylio. Ein nod yw ei gwneud mor hawdd â phosibl i chi ychwanegu hwylio at gwricwlwm chwaraeon neu weithgareddau allgyrsiol eich ysgol.
Gallwch gysylltu â ni trwy:
Ff: (029) 20 877 977
E: wateractivity@cardiff.gov.uk