Mae Canolfan Hwylio Caerdydd ym mhen gogleddol Morglawdd Bae Caerdydd, a gellir ei gyrchu mewn cerbyd, beicio neu gerdded.
Cyfarwyddiadau Gyrru
O’r M4, cymerwch gyffordd 33 a dilynwch yr A4232 i Fae Caerdydd. Gadewch wrth y gyffordd a nodir yn A4055 – Y Barri/Penarth, ac ar y gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Y Barri/Penarth.
Ar ôl croesi Afon Elái, dilynwch yr arwyddion ar gyfer Marina Penarth trwy droi i’r chwith wrth y goleuadau traffig a chymryd yr allanfa gyntaf wrth y gylchfan gyntaf. Wrth yr ail a’r drydedd gylchfan, cymerwch yr ail allanfa, gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer y Morglawdd.
Ar ôl Marina Penarth (byddwch yn ymwybodol o fesurau arafu traffig), cymerwch yr allanfa gyntaf ar y gylchfan ac yna trowch i’r chwith ar unwaith cyn i chi fynd i faes parcio’r Morglawdd.
Byddwch yn cyrraedd atalfa awtomatig. Pwyswch y botwm galw i gysylltu â staff Rheoli’r Morglawdd – rhowch wybod iddynt eich bod yn dod i’r Ganolfan Hwylio a pha gwrs rydych chi’n dod ar ei gyfer. Ar ôl i hyn gael ei gadarnhau, bydd yr atalfa’n codi.
Ar yr amod nad yw unrhyw bontydd loc wedi’u codi, gyrrwch yn syth dros y lociau/llifddorau ac ar hyd ffordd y Morglawdd nes i chi gyrraedd yr ardal barcio, ychydig cyn y parc sglefrio. Canolfan Hwylio Caerdydd yw’r adeilad mawr arian gerllaw.
Wrth yrru ar safle’r Morglawdd, mae’n RHAID dilyn y rheolau canlynol:
- Terfyn cyflymder o 5 mya dros lociau a llifddorau, ac ar ôl y lle chwarae ger y parc sglefrio.
- Terfyn cyflymder o 20 mya ar hyd ffordd y Morglawdd.
- Rhaid i oleuadau perygl fod wedi’u CYNNAU ar bob adeg.
- Dim cerbydau ar lociau os oes UNRHYW oleuadau pontydd yn dangos (hyd yn oed os nad yw’r atalfeydd i lawr)
Bydd methu â dilyn y rheolau neu’r cyfarwyddiadau hyn gan staff Awdurdod Harbwr Caerdydd yn golygu y gwrthodir mynediad i chi a’ch cerbyd yn y dyfodol.
Gall y Morglawdd fod yn brysur iawn gyda cherddwyr a beicwyr. Byddwch yn hynod ofalus ac amyneddgar wrth yrru. Rhowch ddigon o le i eraill a pheidiwch â gwthio eich ffordd trwy dorfeydd.
Mae parcio am ddim ar gael ar y Morglawdd, rhwng y lle chwarae a’r parc sglefrio, ychydig cyn i chi gyrraedd y ganolfan.
Ein cod post ar gyfer defnyddwyr llywiwr lloeren yw CF64 1TP.
Dadlwythwch gyfarwyddiadau fel pdf
Cerdded a Beicio
- Mae mynediad i gerddwyr a beicwyr ar gael o Benarth ar hyd y Morglawdd, neu o Fae Caerdydd ar hyd Rhodfa’r Bae (ger yr Eglwys Norwyaidd ym Mhorth Teigr).
Trên
- Yr orsaf drenau agosaf yw Bae Caerdydd, sy’n daith gerdded 15 munud ar hyd Rhodfa’r Bae. (heibio’r Eglwys Norwyaidd).