Chwilio am syrpreis pen-blwydd, anrheg Nadolig neu anrheg pen-blwydd priodas?
Beth am brynu un o’n tocynnau rhodd sy’n eich galluogi i roi’r rhodd o antur a phrofiad gwirioneddol arbennig.
Gellir prynu ein tocynnau rhodd mewn dwy ffordd:
Taleb y cwrs
Mae hyn yn caniatáu ichi brynu lle llawn ar un o’n cyrsiau. Gallwch naill ai ddewis dyddiad y cwrs a byddwn yn anfon pecyn rhodd atoch i’w gyflwyno; neu brynu taleb cwrs llawn a chaniatáu i’r derbynnydd ddewis dyddiad ei gwrs.
Tocyn rhodd ariannol
Gallwch brynu tocyn rhodd am swm penodol (£50, £100, £150 ac ati), ac yna gall y person sy’n ei dderbyn ddewis beth i’w wario arno.
Sylwer: Mae tocynnau rhodd yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad rydych yn eu prynu. Rhaid i ddyddiad y gweithgaredd fod o fewn y cyfnod 12 mis a bydd yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael. Dylid cadw lle ar gyfer gweithgareddau ymhell ymlaen llaw trwy ffonio 029 20 877 977 a dyfynnu rhif y tocyn. Bydd yn rhaid cyflwyno allbrint o’r tocyn rhodd gyda’r ffurflen archebu ar ddiwrnod y gweithgaredd. Ni ellir ad-dalu tocynnau rhodd.