Gwybodaeth cwrs
Mae’r ardystiad deuddydd hwn ar gyfer hyfforddwyr a gwblhaodd eu cymhwyster mewn dingis / aml-gychod, ond sydd am ddysgu mewn cychod bach.
Yn ystod y cwrs hwn, rhaid i ymgeiswyr ddangos eu sgiliau cyn-asesu a’u technegau addysgu. Asesir ymgeiswyr yn barhaus, a bydd yr hyfforddwr / asesydd yn llofnodi eu llyfr log ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus.
Efallai y bydd gwirfoddolwyr mewn clybiau Cymru yn gymwys i dderbyn cyllid rhannol ar gyfer y cwrs hwn. Cysylltwch â ni am fanylion.