Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth cwrs

Y cwrs deuddydd hwn yw’r cam cyntaf i ddechreuwyr llwyr neu’r rheini sydd â gwybodaeth sylfaenol am hwylio. Dros y ddau ddiwrnod, byddwch chi’n mynd i’r dŵr ar fwrdd ein J/80 MoJo.

Byddwch chi’n dysgu sut i hwylio i bob cyfeiriad a thechnegau hwylio sylfaenol a symudiadau. Ar ddiwedd y cwrs, bydd gennych ddealltwriaeth o dechnegau trin cychod a gwybodaeth gefndir, a byddwch yn gallu hwylio mewn gwyntoedd ysgafn o dan oruchwyliaeth.


Angen profiad blaenorol

Dim

Hyd

2 Ddiwrnod

Cost

£220

Amserau

9:30 - 16:30
Dyddiadau 2024
12 Oct / 13 Oct (1 Space) 9:30am - 4:30pm
02 Nov / 03 Nov 9:30am - 4:30pm