Gwybodaeth cwrs
Mae’r cwrs deuddydd hwn wedi’i anelu at y rhai sydd am yrru cychod pŵer mwy pwerus yn ogystal â dysgu’r wybodaeth angenrheidiol i chi gwblhau darnau arfordirol byr yng ngolau dydd.
Mae’r cwrs yn adeiladu ar y sgiliau y gwnaethoch chi eu dysgu yn ystod eich cwrs Lefel 2, gan ddatblygu a phrofi eich sgiliau trin cychod mewn amodau mwy heriol yn ogystal â rhoi sylw i dechnegau llywio, cynllunio taith, peilotiaeth, sut i ddelio â sefyllfaoedd brys, trin cychod a chyflwyniad i trin dŵr garw.
Argymhellir ymgymryd â’r cwrs hwn cyn ystyried symud ymlaen i’r cwrs Uwch.
Cysylltwch â ni am argaeledd.