Neidio i'r prif gynnwys

Mae ansawdd y dŵr ym Mae Caerdydd yn amrywio o ddydd i ddydd. Caiff ei fonitro gan Dîm Amgylchedd Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC), sy’n rhoi rhagfynegiad ansawdd dyddiol gan nodi a fydd yn cyrraedd y safon neu beidio.

Taflen Diogelwch Bae         Rhagolwg Ansawdd Dŵr

Ym mhob darn o ddŵr croyw agored yn y DU, mae risg o ddal amrywiaeth o heintiau a chlefydau, yn enwedig ymhlith pobl sydd ag ymateb imiwnolegol llai. Mae’r mathau o heintiau sy’n gyffredin yn cynnwys mân anhwylderau gastroberfeddol; heintiau llygaid, clustiau a gwddw; teiffoid; dysentri; a hepatitis A heintus. Mae’r risg yn codi’n fawr wrth lyncu’r dŵr.

Ni chaniateir chwaraeon dŵr eraill megis nofio, sgïo dŵr a hwylfyrddio oni bai bod yr AHC wedi awdurdodi hynny. Mae rhestr o’r gweithgareddau dŵr sydd wedi’u gwahardd ar gael gan yr awdurdod.

Er y gall imiwneiddio leihau’r risg o ddal clefydau penodol, nid oes brechlyn ar gael ar gyfer rhai eraill, e.e. clefyd Weil (leptosbirosis). Nid yw clefyd Weil yn gyffredin ac mae’r risg o’i ddal yn isel, ond gall achosi salwch difrifol, neu hyd yn oed farwol.

Beth ddylwn i ei wneud?
Os nad ydych yn teimlo’n rhy dda ar ôl dod i gysylltiad â dŵr agored, dylech weld meddyg ar unwaith.

Beth ellir ei wneud i leihau’r perygl?
Mae’r perygl o gael salwch difrifol yn isel, ond trwy fod yn ofalus mae modd lleihau’r perygl ymhellach. Dylech orchuddio unrhyw gwt â gorchudd gwrth-ddŵr; gwisgo esgidiau pwrpasol i ddiogelu eich traed; osgoi llyncu dŵr; ac osgoi mynd o dan y dŵr yn ddiangen, yn enwedig o ran eich pen. Os ydych wedi bod mewn cysylltiad â dŵr y Bae, dylech chi ymolchi neu gael cawod ar ôl hynny gan ddefnyddio sebon a dŵr croyw, yn enwedig cyn yfed a bwyta.

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl afiechydon posibl a gludir gan ddŵr, ewch i’r wefan ganlynol: www.nhs.uk