Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth cwrs

Ar ôl dysgu hwylio, efallai yr hoffech chi ddechrau rasio ac ymuno â chlwb. Bydd y cwrs hwn yn eich tywys trwy hanfodion dod oddi ar y llinell gychwyn a rownd y cwrs. Rydym yn cynnig yr holl sgiliau sy’n ofynnol i fwynhau rasio clwb, gan gynnwys sut i gynyddu cyflymder cychod i’r eithaf a drechu’ch gwrthwynebwyr.


Angen profiad blaenorol

Tystysgrif RYA Lefel 2 neu Asesiad Uniongyrchol

Hyd

2 Ddiwrnod

Cost

£220

Amserau

9:30 - 16:30