Yn dilyn llwyddiant cyrsiau Llafnau ein hysgol haf, mae Canolfan Rhwyfo Caerdydd wedi sefydlu clwb rhwyfo llwyddiannus i ysgolion!
Unwaith y bydd dysgwyr iau wedi cwblhau cyrsiau Llafnau 1, 2 a 3 ac yn cyrraedd safon gymwys mewn cychod cregyn main, byddwn yn eu gwahodd i ymaelodi â’r grŵp ysgolion ar brynhawn Sul a nos Fercher neu nos Fawrth/Iau (gan ddibynnu ar eu hoedran). Sylwer nad yw cwblhau cwrs Llafnau 3 yn gwarantu mynediad i’r clwb; mae pob cyfranogwr yn cael ei ystyried yn unigol.
Mae’r clwb yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn ac mae wedi ennill mewn regatas yn Stratford, Caerloyw a Llandaf dros yr hafau diwethaf. Bu ein cynrychiolwyr cyntaf o Gymru’n cystadlu yn 2016, ac eto yn 2017. Mae pethau’n edrych yn dda ar gyfer eleni!
Mae pob sesiwn yn cael ei chynnal gan ein tîm o hyfforddwyr proffesiynol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mike Hnatiw yng Nghanolfan Rhwyfo Caerdydd: